Song Lyrics From Around The World

       Home | 0-9 | A | B | C | D | E | F | G | H | I | J | K | L | M | N | O | P | Q | R | S | T | U | V | W | X | Y | Z | Soundtracks | Christmas |


What song will you find on Lyrics Playground today?

CALON LAN (John Hughes (m) Daniel James (l) 19th century) Nid wy’n gofyn bywyd moethus, Aur y byd na’i berlau mân: Gofyn wyf am galon hapus, Calon onest, calon lân. Calon lân yn llawn daioni, Tecach yw na’r lili dlos: Dim ond calon lân all ganu- Canu’r dydd a chanu’r nos. Pe dymunwn olud bydol, Hedyn buan ganddo sydd; Golud calon lân, rinweddol, Yn dwyn bythol elw fydd. Calon lân yn llawn daioni, Tecach yw na’r lili dlos: Dim ond calon lân all ganu- Canu’r dydd a chanu’r nos. Hwyr a bore fy nymuniad Esgyn ar adenydd cân Ar i Dduw, er mwyn fy Ngheidwad, Roddi i mi galon lân. Calon lân yn llawn daioni, Tecach yw na’r lili dlos: Dim ond calon lân all ganu- Canu’r dydd a chanu’r nos. (Contributed by Peter Akers - March 2016)

    





      Privacy Policy